Mae'r offeryn a ddangosir yma, yn un o dair telyn, yn wreiddiol o Ur, a ddarganfwyd yn 1929, ac sydd cael eu harddangos fel modelau, nas gellir eu chwarae, mewn Amgueddfeydd ym Mhensylvania, LLundain a Bagdad.

IMae'i tua 4,550 o flynyddoedd oed a chredir iddi ragflaennu y Pyramid Mawr a hyd yn oed Cor y Cewri yn Lloegr.

Cyflwyniad

Yn Ebril 2003, ffurfiodd Mr Andy Lowings grwp i ail-greu yn ddilys fersiwn o'r enwog Delyn Aur o Ur a ddangosir uchod, ac a gafodd ei malurio ym Magdad yn ddiweddar.

Cafodd ei ysgogi wrth weld cerrig wedi'u cerfio yn Amgueddfa Ddwyreiniol Chicago, in dangos yr offerynnau llinynnol cyntaf erioed, yn dyddio a amser Genesis !

Ydi hyn erioed wedi cael ei wneud o'r blaen, yn ddilys, gan ynlynnu yn gywir i'r gwreoddiol, efo coed o ardal Sumeria ac aur o ansawdd a'r trwch iawn. Mae'r sgiliau sy'n angenrheidiol i ail-greu y delyn ar gael heddiw. Gofynwyd i'r crefftwyr gorau am help drwy roi o'u gallu. Mae'n ran bwysig o'r prosiect i'r dilysrwydd adlewyrchu hynafiaeth y delyn enwog.

O ganlyniad i ddigwyddiadau yn Irac, mae'r Delyn "pen tarw" yn Amgueddfa Bagdad wedi ennil sylw y wasg yn fyd-eang. Mae llawer o ddiddordeb wedi'i ddangos i glywed yr offeryn a ail-grewyd yn cael ei chwarae.

Yn ystod y dair blynedd ddiweddaf, mae llawer o waith ac ymdrech wedi'i roi i wireddu y breuddwyd o ail-greu copi dilys o Delyn Aur o Ur.

 

Mae'r gwaith bellach wedi'i gwblhau ac mae "Telyn Aur o Ur" yn cael ei gweld yn ei holi odidowgrwydd fel y dengys yn y lluniau yma.

Os teimlwch fod gennych y sgiliau angenrheidiol i hwyluso amcanion y prosiect, pam na wnewch gysylltu a ni? Buasem wrth ein bodd clywed gennych. Cysylltwch a ni, os gwelwch yn dda. info@lyre-of-ur.com

Buasai cefnogaeth i hyrwyddo "Telyn o Ur" yn dderbyniol dros ben.

Buasem yn hoffi ei chwarae i chi a dweud y stori drwy'r holi fyd.

Dim gwneud elw ydi bwriad y prosiect yma, mae'n gwbwl
amholiticaidd, a gall unrhyn un ymuno.